Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 3 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13613
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
2 Papur i'w nodi
2.1 Cafodd y papur ei nodi.
2.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y papur i’w nodi rhif 3. Bydd y Pwyllgor yn ystyried ymateb y Gweinidog ar ôl ei dderbyn. Cytunasant hefyd i sicrhau bod materion perthnasol yn cael eu hystyried fel rhan o'u hymchwiliadau parhaus i weithredu diwygiadau addysg a mynediad at addysg a gofal plant.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod yr adroddiad drafft
4.1 Yn amodol ar
newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r
cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. Bydd
yr adroddiad yn cael ei osod ar 19 Mehefin.
5 Briff technegol ar y Bil Addysg Gymraeg
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru.